yng nghalon cefn gwlad

Mae Maes Carafanau Pen Isaf wedi ei leoli mewn ardal heddychlon yng nghefn gwlad Gogledd Cymru, heb fod yn bell o Lanrwst, Abergele, Betws y Coed a Llandudno, a dim ond 20 munud o’r A55.

7 carafan ar gael i'w llogi am wythnos neu cyfnodau byrrach (yn ddibynol ar argaeledd).

Cyfleusterau'r carafanau

Mae'r carafanau yn cael eu newid yn rheolaidd.  

Wi-fi am ddim

2/3 llofft

Ystafell chwarae a ardal chwarae tu allan

Ystafell olchi ar gael 24 awr y dydd

Mae'r maes carafanau wedi ei leoli ar fferm deuluol yn nghanol cefn gwlad Dyffryn Conwy yng Ngogledd Cymru ar ymyl Parc Cenedlaethol Eryri. Mae golygfa o ardal werdd eang i'w gweld o'r carafanau sy'n cynnwys ffram ddringo a ardal chwarae i'r plant.

Mae digon o anifeiliaid i'w gweld o gwmpas y maes gan gynnwys ieir, defaid, gwartheg a cheffyl.

Perffaith i ymweld â Eryri, Llandudno a Gogledd Cymru

Mae'r maes carafanau wedi ei leoli tua 2 filltir o bentref Llangernyw rhwng Llanrwst ac Abergele

Mae Llangernyw ar ymyl ddwyreiniol Parc Cenedlaethol Eryri yng Ngogledd Cymru, efo Llandudno a Bae Colwyn i'r gogledd a Betws y Coed a Llanrwst i'r de.

Mae Maes Carafanau Pen Isaf 20 munud o'r A55 sy'n ei wneud yn hynod o gyfleus i'w gyrraedd o ran fwyaf o briffyrdd y DU.

Digonedd o lwybrau cerdded amrywiol

gwych ar gyfer rhai sy'n licio antur

lle perffaith i ymlacio

Golygfeydd godidog

Ein Lleoliad

Pen Isaf Caravan Park,

Llangernyw,

Abergele,

Conwy

LL22 8RN