Ein Carafanau

Gwybodaeth am y carafannau yma yng Ngogledd Cymru

Carafanau Modern

Mae gynnon ni 7 carafan fodern sy'n cysgu unai 6 neu 8 person wedi eu gosod ar goncrit. Mae gan bob carafan olygfa o'r ardal chwarae eang i'r plant a chefn gwlad Gogledd Cymru. Mae car yn hanfodol ar gyfer gwyliau yma, ac mae digon o le parcio yn ymyl pob carafan.

Gwresogydd (rhai ohonyn nhw wedi intigreiddio yn y garafan)

Wi-fi am ddim 

Teledu

Ystafell ymolchi efo cawod

Galeri

Dyma rai lluniau o'r maes a'r carafanau sydd ar gael.

Cyfleusterau

Ystafell ymolchi efo cawod

2-3 llofft

Ystafell olchi ar gael 24 awr y dydd

Lle chwarae diogel i blant

Ystafell Gemau (Bwrdd Pŵl a Ping Pong)

Mwy o wybodaeth

Mae 'na ystafell gemau (efo bwrdd tennis a pŵl), ardal chwarae, ystafell olchi efo peiriant golchi a sychu (cost ychwanegol),haearn smwddio a bwrdd smwddio ar gael ar y safle.

Bydd angen i chi ddwad â cynfasau, gorchudd gobenydd, gorchudd duvet, tyweli a darnau £1 ar gyfer y mesurudd trydan efo chi. 

Yma mi fedrwch chi fwynhau'r tawelwch ac ymlacio gan wybod fod man saff i'r plant chwarae. Gan bod hon yn fferm waith mae anifeiliaid o gwmpas y lle bob amser i chi ddod i'w nabod. Darllenwch y dudalen 'Ardal Leol' am fwy o wybodaeth am atyniadau Gogledd Cymru y medrwch chi ymweld â nhw yn ystod eich gwyliau yma.

Mae croeso i chi ddod â'ch anifeiliaid anwes efo chi i Faes Carafanau Pen Isaf. Mae cost o £15 yr anifail. Anfonwch neges i drafod os fysa chi'n licio dod a unrhyw anifail heblaw am gi efo chi.

Rhestr brisiau

Loader Loading...
EAD Logo Taking too long?

Reload Reload document
| Open Open in new tab