Mwynhewch ryfeddodau Gogledd Cymru

- Cyfle i drio rhywbeth newydd -

Gweithgareddau Awyr Agored

Mae lleoliad Maes Carafanau Pen Isaf yn cynnig cyfuniad o lonyddwch a cyfleustra gan ei fod ond 15 milltir o Fetws y Coed, 7 milltir o dref farchnad Llanrwst a 12 milltir o Abergele. Mae Llandudno, Conwy, Dinbych a Rhuthun o fewn 40 munud yn y car o'r maes carafanau, felly mi fedrwch chi wneud eich gwyliau mor brysur neu ddistaw ac y mynnwch.

Mae Cronfa Ddŵr Llyn Brenig a'r Ganolfan Ymwelwyr 30 munud i ffwrdd o'r maes carafanau yn y car. Yno mae amrywiaeth o weithgareddau awyr agored ar gael fel hwylio, pysgota, parc chwarae pren i'r plant ac hefyd mae modd llogi beiciau. Mae 'na lwybr 9.5 milltir ar gyfer cerdded neu feicio o gwmpas y llyn. 

Mi fedrwch chi hefyd fwynhau diod poeth neu bryd cynnes yn y caffi. O'r caffi, mi welwch chi olygfeydd panoramig o'r llyn a'r ardal o'i amgylch, sy'n ei wneud yn fan perffaith i gychwyn neu orffen eich taith o gwmpas y llyn. 

Mae RibRide, sy wedi'i leoli ym Mhorthaethwy (45 munud o'r safle) yn gwmni teithiau cychod antur.

Mwynhewch lonyddwch yr afon Menai, y tai mawreddog, llanw ffyrnig a'r trobyllau. Mi fedrwch chi deithio tua'r môr at ynys Llanddwyn neu tuag at Llandudno i Ynys Seiriol i weld y morloi a nifer o adar gwahanol. Os dach chi isio ychydig o hwb i'r adrenalin ac isio mynd yn gyflym, dewisiwch 'Velocity' sef y RibRide cyflyma yn y byd. 

Mae posib i chi gerdded o gwmpas y fferm ac o'r caeau top mi welwch chi y maes carafanau i un cyfeiriad a mynyddoedd godidog Eryri i'r cyfeiriad arall. Mi fedrwch chi hefyd fynd am dro lawr at yr afon gerllaw.  

Mae digonedd o lwybrau cerdded, mynydda, beicio a beicio mynydd o fewn cyrraedd i'r maes carafanau. Mae mapiau a llyfrau teithiau cerdded ar gael i chi eu benthyg yn yr ystafell olchi ar y safle.  

Opsiwn arall fyddai mynd am dro i rai o'r safleoedd 'National Trust' sy gerllaw, Gerddi Bodnant yw'r agosaf sydd 20 munud o daith olygfaol o'r safle mewn car.

Mae Gogledd Cymru yn le perffaith i rai sy'n chwilio am gyffro. Does dim prinder o antruiaethau wneith yn sicr fod yr adrenalin yn pwmpio ar gael ar ein stepen drws.   

Anturiaethau a hanner

Yn y goedwig ger Betws y Coed, mi ffeindiwch chi Zip World Fforest efo llwyth o anturiaethau a chaffi hyfryd. Mae digon o weithgareddau yma i gadw'r teulu cyfan yn brysur trwy'r dydd. Mi fedrwch chi ddewis rhwng y Fforest Coaster, sydd yr unig un o'i fath yn y DU, neidio o gwmpas ar y 'Treetop Nets' neu y cyrsiau sy'n uchel yn y coed - Tree Hoppers a Zip Safari. Mae cyfle hefyd i chi fentro ar swing uchaf Ewrop yma sef y Skyride.

Wnewch chi fentro i deithio trwy fynydd gan gymryd rhan mewn cyfres o sialensau anturus ar un o dri antur tanddaearol Go Below? Mi gewch gyfle i fynd ar 'zip-line' trwy geudyllau, dringo siafft fertigol, hwylio ar draws llyn, dringo rhaeadr neu abseilio lawr i bwynt dyfnaf y DU. Wedi'i leoli ger Betws y Coed.  

Does dim llawer o lefydd yn byd y medrwch chi syrffio oddi ar yr arfordir, ond gyda lwc mae posib gwneud hyn ar lagŵn syrffio Adventure Parc Snowdonia - sy'n rhoi sicrwydd o fedru syrffio i chi efo tywydd anwadal y DU. Ond erbyn hyn, mae hefyd canolfan efo gweithgareddau tu mewn gan gynnwys cwrs antur a man chwarae meddal i'r plant lleiaf. Mae hefyd caffi a bwyty ar y safle.

Bwyd a Diod

Mae Gogledd Cymru yn le gwych i rai sy'n licio bwyd. Mae digonedd o ddewis o fwytai a chaffis o safon uchel iawn ar gael a ni fydd prinder o lefydd i chi fwyta ynddyn nhw yn ystod eich gwyliau.  

Mae'r siop a'r dafarn (Yr Hen Hydd/Stag) agosaf o fewn 2 filltir ym mhentref gwledig Llangernyw sy'n cymryd 5 munud yn y car neu tua 40 munud ar droed. Mae Stag yn cynnig bwyd i fynd yn ogystal a bwyd hyfryd yn y dafarn.

Chwarter awr yn y car a mi gyrhaeddwch chi dref Llanrwst sydd â dewis da o fwytai a thêc awê. Mae Tir a Môr yn siop chips a bwyty sy'n defnyddio cynnyrch lleol ac yn gwneud pizzas 'stonebaked' yn ogystal â phrydau arferol siop chips. Mae Lle Harri a'r Eagles hefyd yn cynnig bwyd da iawn. 20 munud o'r maes carafanau ym Mae Colwyn, mae gan y cogydd Bryn Williams (perchennog Odettes yn Llundain) fwyty dafliad carreg o'r traeth sef 'Porth Eirias'.  

Yma mae pate enwog Patchwork yn cael ei gynhyrchu a'i werthu yn nhref fechan Rhuthun ac yn un lle mae'n rhaid i chi ymweld â os dach chi'n ffan o'r pate.  

Ddim yn licio pate? Mae digon o ddewis fel arall ar gael yma hefyd ac maen nhw hefyd yn creu hampers o gynnyrch lleol - syniad gwych am anrheg i fynd adre neu trît bach i chi eich hun tra ar wyliau!  

Mae digon o ddewis ar gael yma, mi fedrwch chi fwyta yn un o'r bwytai, caffis neu siop goffi sy ar y safle, neu mynd am dro i'r siop fferm er mwyn llenwi cypyrddau'r garafan efo cynnyrch lleol i'w bwyta yn ystod eich gwyliau.

Mae digonedd i'w wneud a rhywbeth i blesio pawb! Mi fedrwch chi fynd am dro i un o'r trefi cyfagos i grwydro o gwmpas y siopau lleol. Dyma rai atyniadau eraill cyfagos sy'n addas i'r teulu cyfan, i enwi dim ond rhai - Llechwedd, Sw Fynydd Bae Colwyn, Y Gogarth, Llandudno.

Gweithgareddau i'r teulu

Fysa chi'n licio gwneud bach o adeiladu tîm efo'ch teulu neu ffrindiau? Mae Locked In yn le perffaith i rai sy'n licio datrys problemau a phosau. Cwbl sydd rhaid i chi wneud ydy trio dianc o 'stafell sydd wedi'i chloi o fewn yr awr wrth ddatrys problemau, rhigymau a phob math o gliwiau a chodau.

Os dach chi'n chwilio am gyffro, mi fydd y rhwydi anferth tanddaearol yn Bounce Below yn berffaith i chi. Mi gewch chi neidio a llithro o gwmpas trwy'r ogof ar y lle chwarae gorau bosib.

Wedi'i leoli ym Mlaenau Ffestiniog

Ymlaciwch yn y garafan a mwynhau'r golygfeydd godidog o gefn gwlad a gwylio'r wyn bach yn y caeau cyfagos yn ystod y gwanwyn. Mae hefyd digon o le i'r plant chwarae yn ddiogel ar y cae, ar y ffram ddringo neu yn yr ystafell gemau sydd ar y safle.